Adroddiad Blynyddol y Grŵp Trawsbleidiol.

2 Rhagfyr 2014

Y Grŵp Trawsbleidiol ar Ganser

 

1. Aelodaeth y grŵp a deiliaid swyddi.

 

Julie Morgan AC, Cadeirydd

Andrew RT Davies AC

Janet Finch Saunders AC

Elin Jones AC

Mike Hedges AC

Clare Bath - Ysgrifennydd (CRUK)

 

Rhestr gwahoddedigion:

Pob Aelod Cynulliad

Naomi Horne (Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro - MEDDYGAETH)

Paul Head (Breakthrough)

Annie Mulholland - claf

Barbara Burbidge - claf

Peter Thomas

Banc Canser Cymru

Phizer

Cymdeithas Diwydiant Fferyllol Prydain

YMDDIRIEDOLAETH SEFYDLEDIG GIG Y ROYAL MARSDEN

Ysbyty Canser Felindre

Sefydliad Canser Abertawe

Uned Treialon Canser Cymru

Caroline Walters - Macmillan.org.uk

Rhwydwaith Canser De Cymru

Cronfa James Whale

Sara Morgan - Myeloma

Bowel Cancer Cymru

Novartis

Canolfan Ymchwil Clinigol y Sefydliad Cenedlaethol ar gyfer Ymchwil Gofal Cymdeithasol ac Iechyd

Boehringer-Ingelheim

 

2. Cyfarfodydd Blaenorol y Grŵp ers y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol Diwethaf.

 

Cyfarfod 1: 4 Rhagfyr 2013 08:00-09:30. Dyfodol Trin Canser

 

08:10 Profion Genetig - Dr Rachel Butler, FRCPath, Gwyddonydd Clinigol Ymgynghorol, Pennaeth Labordy Geneteg Cymru.

 

08:20 Meddygaeth Haenedig - Yr Athro Malcolm Mason, Pennaeth Oncoleg a Meddygaeth Liniarol, Ysgol Feddygaeth, Prifysgol Caerdydd. Cyfarwyddwr Banc Canser Cymru.

 

08:30 Technegau Radiotherapi Newydd - Dr Tom Crosby, Oncolegydd Clinigol Ymgynghorol, Cyfarwyddwr Clinigol Canolfan Ganser Felindre. Cyfarwyddwr Rhwydwaith Canser De Cymru.

 

Trafodaeth

 

Cyfarfod 2: 13 Mai 2014 08:00-09:30. Mesur Gwybodaeth am Ganser.

 

08:10 - Cyflwyniad gan Dr Dyfed Huws, Cyfarwyddwr Uned Gwybodaeth ac Arolygaeth Canser Cymru, Iechyd Cyhoeddus Cymru, ar adroddiad diweddar yr Uned ynghylch nifer yr achosion o ganser, nifer y marwolaethau a'r nifer sy'n goroesi yng Nghymru.

 

08:20 - Cyflwyniad gan Gwenllian Griffiths, Pennaeth Materion Allanol Cymorth Canser Macmillan, ar yr Arolwg Profiad Cleifion Canser cyntaf yng Nghymru.

 

08:30 - Sgwrs gyda Dr Tom Crosby, Cyfarwyddwr Clinigol yn Felindre a Chyfarwyddwr Meddygol Rhwydwaith Canser De Cymru, am yr adolygiad cymheiriaid o wasanaethau canser yng Nghymru.

 

Trafodaeth

 

Cyfarfod 3: 21 Hydref 2014 08:00-09:30. Ymchwiliad y Pwyllgor Iechyd ar y Cynllun Cyflawni ar gyfer Canser yng Nghymru.

 

08:10 - David Rees AC, Cadeirydd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol:  Ymchwiliad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol i'r cynnydd sydd wedi'i wneud hyd yma ar weithredu Cynllun Cyflawni ar gyfer Canser Llywodraeth Cymru.

 

08:30 - Susan Morris, Rheolwr Cyffredinol, Cymorth Canser Macmillan Cymru, a Chadeirydd Cynghrair Canser Cymru: Ymateb Cynghrair Canser Cymru i Ymchwiliad y Pwyllgor.

 

08:40 - Trafodaeth/Adborth ar yr Ymchwiliad a'r Adroddiad.

 

Cyfarfod 4: 2 Rhagfyr 2014 08:00-09:30. Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol a'r system arfaethedig o gael un llwybr o amseroedd aros ar gyfer canser.

 

Ail-etholwyd Julie Morgan AC yn Gadeirydd y Grŵp, a Clare Bath yn Ysgrifennydd y Grŵp.

 

Yna cawsom gyfarfod arferol a daeth Dr Tom Crosby, Cyfarwyddwr Clinigol yn Felindre a Chyfarwyddwr Meddygol Rhwydwaith Canser De Cymru, i'r cyfarfod i roi cyflwyniad ar y system arfaethedig o gael un llwybr o amseroedd aros ar gyfer canser, sydd wedi ei dreialu yn y Byrddau Iechyd Lleol dros yr haf. 

 

08:00 - Croeso, Julie Morgan AC, Cadeirydd y Grŵp Trawsbleidiol ar Ganser.

 

08:05 - Ethol Cadeirydd ac Ysgrifennydd

 

08:10 - Adroddiad Cynlluniau Peilot Un Llwybr o Amseroedd Aros ar gyfer Canser ac Adroddiad Cynllun Cyflawni ar Gyfer Canser Byrddau Iechyd Lleol 2014, Dr Tom Crosby.

Delivery Plan Reports, Dr Tom Crosby.

 

08:30 - Trafodaeth.

 

3. Lobïwyr proffesiynol, sefydliadau gwirfoddol ac elusennau y mae’r Grŵp wedi cyfarfod â nhw yn ystod y flwyddyn flaenorol.

 

Dim.

 

 

Datganiad Ariannol Blynyddol. 

2 Rhagfyr 2014

Y Grŵp Trawsbleidiol ar Ganser 

Julie Morgan AC, Cadeirydd

Clare Bath, Ysgrifennydd (CRUK)

 

 

 

Treuliau Grŵp yr Ysgrifennydd .

 

 

Dim.

 

 

£0.00

Cost yr holl nwyddau.

Ni phrynwyd nwyddau.

£0.00

Buddiannau a dderbyniwyd gan y grŵp neu gan Aelodau unigol o gyrff allanol.

Ni dderbyniwyd buddiannau.

£0.00

Ysgrifenyddiaeth neu gymorth arall.

Ni dderbyniwyd cymorth ariannol.

£0.00

Gwasanaethau a ddarperir i'r Grŵp fel lletygarwch.

Talwyd am yr holl luniaeth gan CRUK.

Dyddiad

Disgrifiad o'r darparwr a'i enw

Cost

 

Darparwyd y bwffe gan Charlton House.

£ 160.00 x 4 cyfarfodydd brecwast rholiau cig moch a choffi

 

Cyfanswm cost ar gyfer y flwyddyn

 

£640.00